Watch Clive's storyWatch Clive's story

Caerdydd

Croeso i ranbarth Caerdydd Dimensions.

Welsh flag

Rydym yn cefnogi dros 35 o bobl ag anawsterau dysgu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Ein diben yw helpu'r bobl rydym yn eu cefnogi i fyw'r bywydau maent yn eu dymuno, a chredwn y dylai pobl ag anawsterau dysgu gael eu parchu, derbyn yr un cyfleoedd mewn bywyd – phawb arall, a gwneud eu dewisiadau a'u penderfyniadau eu hunain.

Y math o wasanaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi yn ein rhanbarth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gwasanaethau byw mewn grŵp i bobl sy'n byw mewn llety a rennir
  • gwasanaethau cynnal byw, yn darparu pecynnau cefnogi unigol i bobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain

Rydym yn gallu darparu mathau eraill o wasanaethau cefnogi lle bo hynny'n addas, gan gynnwys gwasanaethau trosglwyddo ar gyfer pobl ifanc ac anawsterau dysgu sydd rhwng 16 a 21 oed.

Beth gallwn ei wneud i chi

Os oes gennych anhawster dysgu…

…byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu cynllun sy'n canolbwyntio ar y person, ac a fydd yn ymwneud –'ch anghenion a'ch dyheadau.
…gallwn eich cefnogi yn eich cartref, neu allan yn y gymuned.
…byddwn yn eich cefnogi i wneud ffrindiau a chynnal perthnasoedd
…gallwn eich cefnogi i gael swydd os oes arnoch eisiau un.
…byddwn yn gwrando arnoch ac yn eich helpu i fod yn fwy annibynnol.
…byddwn yn eich helpu i fyw'r bywyd rydych yn ei ddymuno.

Os ydych yn perthyn i berson sy'n derbyn cefnogaeth gennym…

…byddwn yn eich cynnwys wrth ddatblygu pecyn cefnogi'ch perthynas ynghyd –'r cynllun sy'n canolbwyntio ar y person.
…byddwn yn rhoi'r diweddaraf i chi ynghylch beth rydym yn ei wneud

Os ydych am weithio i ni…

…byddwch yn rhannu ein gwerthoedd a'n cred. Byddwn yn cynnig hyfforddiant a phecyn cyflog cystadleuol i chi, ynghyd –'r cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi.

Os ydych yn brynwr…

…gallwn gynnig pecynnau cefnogi cost effeithiol a chreadigol.

Cysylltu – ni

Os hoffech wybod mwy am ein gwasanaethau a sut gallwn eich helpu, cysylltwch – ni:

Dimensions – Caerdydd
Pwll Mawr Offices
Pwll Mawr Business Park
Rumney
Caerdydd
CF3 1TH
Ffôn: 02921 921 300
E-bost: cardiff.office@dimensions-uk.org

Last updated: 20th June 2008 at 09:06:17