Sign up for our newsletter
Sign up now to receive our newsletter and regular updates
Cymraeg
Amdanom ni
Croeso i Dimensions. Rydym yn cefnogi dros 1,200 o bobl ifanc ac oedolion ag anawsterau dysgu ledled y DU. Ni yw darparwr gwirfoddol ail fwyaf y DU ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu.
Credwn y dylai pobl ag anawsterau dysgu gael eu parchu, a derbyn yr un cyfleoedd mewn bywyd ag sydd gan bawb arall, a gwneud eu dewisiadau a'u penderfyniadau eu hunain. Ac mae diben ein sefydliad yn syml – helpu pobl ag anawsterau dysgu i fyw'r bywyd maent ei eisiau.
Mae ein diben yn sylfaen i bopeth a wnawn.
 phwy rydym yn gweithio
Rydym yn cefnogi dros 1,200 o bobl ifanc ac oedolion sydd ag ystod eang o anawsterau dysgu, gan gynnwys pobl ag anhwylder sbectrwm awtistig neu anaf caffaeledig i'r ymennydd. Mae'n bosib bod gan y bobl rydym yn eu cefnogi anghenion cymhleth neu faterion iechyd meddwl.
Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn sefydliad nid er elw sy'n darparu:
- Pecynnau cefnogaeth personol i bobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain
- Cefnogi pobl sy'n byw mewn llety a rennir
- Gofal preswyl cofrestredig
- Cefnogi pobl i chwilio am lety a'i gadw
- Seibiannau byr
- Cefnogi pobl i hygyrchu cyfleoedd cyflogaeth a hamdden
- Gwasanaethau cefnogi trosglwyddo i bobl ifanc ag anawsterau dysgu
Sut rydym yn gweithio
- Rydym yn ystyried pobl ag anawsterau dysgu fel pobl yn gyntaf
- Rydym yn parchu diwylliant a chredoau'r bobl rydym yn eu cefnogi ynghyd –'n gweithlu.
- Rydym yn gwrando'n astud.
- Rydym yn rhoi gwerth ar gyfraniad unigryw pawb.
- Rydym yn gweithio'n greadigol gyda phob person i greu canlyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau
- Rydym yn adeiladu partneriaethau i ddarparu'r cyfuniad gorau posib o wasanaethau
- Rydym yn dysgu ac yn gwella
Yn aml defnyddir anhawster dysgu ac anabledd dysgu yn gyfnewidiol; gwell gennym ddefnyddio'r term anhawster dysgu.
Sut rydym yn gweithredu
Ni fyddem yn bodoli heb y bobl rydym yn eu cefnogi. Felly, mae'n iawn ein bod yn gwrando arnynt i ganfod sut rydym yn llwyddo, sut rydym yn methu, a beth arall gallwn ei wneud i'w helpu i fyw'r bywydau mae arnynt eu heisiau.
Rydym wedi sefydlu strategaeth atebolrwydd o'r enw 'Mae Pawb yn Bwysig' sy'n canolbwyntio ar y tri phrif faes – sicrhau bod pobl yn gwybod beth rydym yn ei wneud; eu cynnwys wrth redeg y sefydliad – e.e. drwy recriwtio eu staff eu hunain – a sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli'n ffurfiol mewn sefyllfaoedd megis cyfarfodydd y bwrdd.
Rydym bellach yn fwy atebol i'r bobl rydym yn eu cefnogi nag erioed o'r blaen, ac mae eu gweld ar draws y sefydliad yn ein hatgoffa'n barhaus o'n diben – i'w helpu i fyw'r bywydau mae arnynt eu heisiau.
Cawn ein rheoli hefyd gan Fwrdd Rheoli gwirfoddol, sy'n cynnwys perthnasau a dau berson ag anawsterau dysgu.




